[Company Logo Image]

  Hufen Bytholwyrdd
 Products e-mail us Cymraeg CynhyrchionHome Hufen Bytholwyrdd Hufen Croen Sych Croen Coslyd Haenog Plant Gwefus Hufen dwylo

 

 

            

Hufen Bytholwyrdd.

[Product Image] 
 

Gwaith llaw Gwenllian Aromatig

Hufen lleithio hyfryd bob dydd  wedi’i bersawru'n naturiol, yn addas ar gyfer pob math o groen, ond yn enwedig ar gyfer croen sych neu aeddfed. Llawn fitaminau maethlon ac olewon naturiol i faethu, i adnewyddu ac i adfer eich croen.

Mae ychydig yn mynd yn bell, a dyw e ddim yn gadael haen seimllyd ar wyneb y croen.

Wedi’i wneud gyda sail lwyr-lysieuol, hypo-alergenig, gydag olewon organig Rhosbren, Lafant a Phig y Crëyr ynghyd ag olew moron llawn fitaminau ac olew olewydd pur iawn, fitamin E ac Aloe Vera.

Mae’n derbyn adborth cadarnhaol cyson ers iddo gael ei gymysgu am y tro cyntaf yn Nyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin ddeuddeng mlynedd yn ôl. Gwnaeth David Bellamy sylwadau ar ansawdd cynhyrchion Gwenllian yn ei gyfres deledu “Welsh Herbal” ym 1998 - “digon da i’w bwyta” yn ei eiriau e!

Maint – 60 gram. Yn dod mewn jar wydr clir wedi’i selio. Wedi’i labelu’n glir ac yn ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg) gyda’r holl gynhwysion a chyfarwyddiadau.

 

bullet

Er bod yr hufen yma wedi hen ennill ei blwyf, ni allwn, yn ôl y gyfraith, wneud unrhyw honiadau ynglŷn â rhinweddau llesol y cynnyrch hwn.

 

bullet

Pris - £8.95 + £2.00 trwy’r post  (eitemau ychwanegol-£1-00 yr un i'w postio)  

 

 

 

Send mail to IT@gwenllianaromatic.co.uk with questions or comments about this web site.
Last modified: 02/03/08 
Web Design by: JayWhyDesigns