[Company Logo Image]

  Gwefus
 Products e-mail us Cymraeg CynhyrchionHome Hufen Bytholwyrdd Hufen Croen Sych Croen Coslyd Haenog Plant Gwefus Hufen dwylo

 

 

Balm gwefusau Aromatherapi

 

[Product Image]

 

Balm gwefusau lleithiog, hirhoedlog ar gyfer gwefusau poenus,clwyfus, wedi cracio. Yn addas hefyd i’w ddefnyddio bob dydd fel balm gwefus cyffredin.

 Wedi’i wneud gyda chŵyr gwenyn organig, olew blodau haul, petrolewm, gydag olewon  Y Ddeilen  De, Mintys poethion a Lemwn.

Mae’n derbyn adborth cadarnhaol cyson ers iddo gael ei gymysgu am y tro cyntaf ddeuddeng mlynedd yn ôl yn Nyffryn Tywi gwledig gan Gwenllian.

Cafodd ei amlygu yn y gyfres deledu “Welsh Herbal” (1998) gyda David Bellamy a wnaeth sylwadau cyson am arogl ffres, naturiol holl gynhyrchion Gwenllian – “digon da i’w bwyta” yn ei eiriau e!

Mae Dana, o Rydaman, yn dweud “Mae’r balm gwefusau hwn yn wir yn gweithio. Mae’n aros ar y gwefusau llawer hirach na balmau gwefusau eraill sydd ag enwau poblogaidd. Mae e hefyd yn dda at grach annwyd …. i’w argymell.”

Maint – 15 gram. Yn dod mewn jar wydr clir wedi’i selio. Wedi’i labelu’n glir ac yn ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg) gyda’r holl gynhwysion a chyfarwyddiadau.

 

bullet

Er bod y balm gwefusau hwn wedi hen ennill ei blwyf, ni allwn, yn ôl y gyfraith, wneud unrhyw honiadau ynglŷn â rhinweddau llesol y cynnyrch hwn.

 

bullet

Pris - £4.95 + £2.00 trwy’r post  (eitemau ychwanegol-£1-00 yr un i'w postio)

bullet

 

 

 

 

 

Send mail to IT@gwenllianaromatic.co.uk with questions or comments about this web site.
Last modified: 02/03/08 
Web Design by: JayWhyDesigns