[Company Logo Image]

  Hufen dwylo
 Products e-mail us Cymraeg CynhyrchionHome Hufen Bytholwyrdd Hufen Croen Sych Croen Coslyd Haenog Plant Gwefus Hufen dwylo

 

 

Hufen dwylo llysieuol

[Product Image]

Hufen dwylo llysieuol

Gwaith llaw Gwenllian Aromatig. Mae’n lleddfu, yn esmwytho ac yn lliniaru dwylo craciog, coch. Yn llawn fitaminau ac olewon maethlon i adfer dwylo caled, blinedig, lluddedig gan waith.

Mae ychydig yn mynd yn bell, a dyw e ddim yn gadael haen seimllyd ar arwyneb y croen.

Wedi’i wneud gyda sail lwyr-lysieuol, hypo-alergenig, gydag olewon organig Coed Te, Camwri, Pig y Crëyr ynghyd ag olew moron llawn fitaminau ac olew olewydd pur iawn, gyda chollen ystwyth ac Aloe Vera. Mae’r rhain i gyd yn cyfuno i greu hufen dwylo wedi’i ddefnyddio ac wedi’i gymeradwyo gan lawer o gwsmeriaid yn ystod y deuddeng mlynedd diwethaf.

Wedi’i amlygu ar gyfres deledu David Bellamy “Welsh Herbal” ym 1998. Roedd yn dwlu ar arogleuon botanegol, naturiol cynhyrchion Gwenllian, gan ddatgan nad oedd cymhariaeth gyda chynhyrchion Gwenllian wedi’u seilio ar blanhigion naturiol, a llawer o gynhyrchion poblogaidd sydd i fod yn “naturiol”.

Maint – 60 gram. Yn dod mewn jar wydr clir wedi’i selio. Wedi’i labelu’n glir ac yn ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg) gyda’r holl gynhwysion a chyfarwyddiadau.

 

bullet

Er bod yr hufen dwylo wedi hen ennill ei blwyf, ni allwn, yn ôl y gyfraith, wneud unrhyw honiadau ynglŷn â rhinweddau llesol y cynnyrch hwn.

bullet

Pris - £8.95 + £2.00 trwy’r post  (eitemau ychwanegol-£1-00 yr un i'w postio)

bullet

 

 

 

Send mail to IT@gwenllianaromatic.co.uk with questions or comments about this web site.
Last modified: 02/03/08 
Web Design by: JayWhyDesigns